Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Medi 2021
Amser: 08.46 - 12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12427
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Carolyn Thomas AS Samuel Kurtz AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Emma Williams, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Francois Samuel, Llywodraeth Cymru Dr Jess Pearce, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Claire Germain, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Sam Rowlands AS. Dirprwyodd Samuel Kurtz AS ar ran Sam yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
1.3 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Carolyn Thomas AS
· Samuel Kurtz AS
· Joel James AS
· Alun Davies AS
1.4 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Alun Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 7 o'r cyfarfod heddiw ac o'r cyfarfod ar 6 Hydref 2021
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
3 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar nifer o faterion a godwyd.
4 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – y Gweinidog Newid Hinsawdd
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
· Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
· Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
· Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru
· Dr Jess Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth Cymru
5 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
· Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru
· Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru
5.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:
· Nodyn ar waith y panel taliadau annibynnol mewn perthynas â chyflogau’r Cynghorwyr, yn ogystal â chopi o adroddiad blynyddol y panel, pan gaiff ei gyhoeddi;
· Nodyn ar weddill yr arian (£2 biliwn) oedd heb ei ddyrannu yng nghyllideb atodol mis Mehefin 2021;
· Diweddariad ar argymhellion a gwaith presennol y Panel Adolygu Annibynnol ar gynghorau cymuned a thref.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.
6.2 Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gwaith y Pwyllgor
6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â gwaith y Pwyllgor.
6.3 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn trafod ei flaenoriaethau
6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â'i flaenoriaethau.
6.4 Adroddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, "Cartrefi addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her Ôl-osod”
6.4.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, "Cartrefi addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her Ôl-osod”.
6.5 Llythyr gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) ynghylch y sector tai ac "NHBC Accepts"
6.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr NHBC mewn perthynas â'r sector tai ac "NHBC Accepts".
6.6 Llythyr gan Sefydliad Bevan ynghylch meysydd polisi o ran tlodi ac anghydraddoldeb
6.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Sefydliad Bevan mewn perthynas â meysydd polisi o ran tlodi ac anghydraddoldeb.
6.7 Llythyr gan Llyr Gruffydd AS at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch ffiniau etholiadol awdurdodau lleol
6.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Llyr Gruffydd AS at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â ffiniau etholiadol awdurdodau lleol.
6.8 Papur briffio seneddol gan y Comisiwn Etholiadol ynghylch y Bil Etholiadau
6.8.a Nododd y Pwyllgor y papur briffio seneddol gan y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'r Bil Etholiadau.
6.9 Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cydweithio rhwng y pwyllgorau
6.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â chydweithio rhwng y pwyllgorau.
6.10 Papur briffio gan Llamau mewn perthynas ag Upstream Cymru
6.10.a Nododd y Pwyllgor bapur briffio Llamau mewn perthynas ag Upstream Cymru.
7 Sesiynau craffu ar waith Gweinidogion – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.